Holi ac Ateb

Beth yw oes y cynllun hydro?

Mae gennym les 40 mlynedd ar y tir ond mae’r seiliau concrid a’r tyrbin i barhau ymhell y tu draw i hynny. Gall cynlluniau hydro barhau am bron i 100 mlynedd heb broblemau mawr.

Beth fydd costau adeiladu’r hydro?

Rydym yn amcangyfrif fod costau adeiladu Hydro Ogwen yn oddeutu £520,000.

Faint o incwm fydd yn cael ei gynhyrchu gan yr hydro?

Mae ein rhagfynegiadau ariannol yn awgrymu y bydd Hydro Ogwen yn cynhyrchu incwm o tua £68,000 y flwyddyn am yr 20 mlynedd gyntaf. Mae’r incwm yn cynnwys gwerthiant trydan a chymhorthdal o’r Llywodraeth am gynhyrchu ynni adnewyddadwy, sef y Tariff Bwydo-i-Mewn. Wedi’r 20 mlynedd gyntaf fynd heibio, daw’r incwm o’r gwerthiant trydan yn unig oni bai y bydd mwy o gymorthdaliadau gan y llywodraeth erbyn hynny.

Beth yw Tariff Bwydo-i-Mewn (FIT)?

Mae’r llywodraeth yn cynnig cymhorthdal wedi ei weinyddu gan rheolaethwyr ynni Ofgem i ddatblygu cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Gelwir y cymorthdaliadau hyn yn Tariff Bwydo-i-Mewn. Am bob KWh a gynhyrchir gan Hydro Ogwen, dylai dderbyn graddfa Tariff Bwydo-i-Mewn o £0.0854.

Byddwn hefyd yn derbyn tua £0.0485 y Kwh drwy allforio’r trydan i’r rhwydwaith drydan.

Unwaith fydd yr hydro yn weithredol, beth fydd y costau cynnal?

Bydd costau cynnal yn cynnwys:

  • cynnal a chadw a gofal wythnosol;
  • archwiliad cynnal a chadw blynyddol;
  • rhent;
  • trethi busnes;
  • yswiriant;
  • gweinyddu;
  • paratoi ar gyfer yr annisgwyl;
  • gwasanaethau technegol.

Sut fydd yr elw a wneir gan Ynni Ogwen yn cael ei wario?

Bydd elusen gymunedol yn cael ei sefydlu gan Bartneriaeth Ogwen ar gyfer dosbarthu arian er lles cymunedau lleol. Bydd unrhyw elw sydd dros ben a gynhyrchir gan Hydro Ogwen yn mynd trwy gymunrodd i’r elusen honno.

Unwaith y bydd yr hydro’n weithredol, sut bydd yr enillion yn cael eu gwario gan Ynni Ogwen?

Y bwriad gan y Cyfarwyddwyr yw i’r enillion o gynhyrchu, gwerthu ac allfudo trydan gan Ynni Ogwen gael eu defnyddio i dalu am gostau rhedeg y cwmni yn flynyddol, yn y modd canlynol:

  • gofynion cyfreithiol, e.e. ffioedd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol;
  • gwasanaethau gweinyddol angenrheidiol ac yswiriant;
  • unrhyw waith cynnal neu drwsio’r cyfarpar cynhyrchu;
  • cronfa wrth gefn ar gyfer digwyddiadau annisgwyl a rhannau newydd ar gyfer y cyfarpar;
  • talu llog a chyfalaf ar unrhyw fenthyciadau;
  • taliadau i’r elusen newydd yn cael ei sefydlu ar gyfer ddosbarthu’r elw’r hydro er budd cymunedau lleol
  • talu llog i’n buddsoddwyr.

Beth yw statws y cynllun ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd mae gan y cynllun:

  • ganiatâd cynllunio;
  • drwyddedau tyniad a llociad gan Gyfoeth Naturiol Cymru i reoli sut y defnyddir y dŵr i gynhyrchu trydan;
  • opsiwn ar les a hawl mynediad oddi wrth Welsh Slate;
  • opsiwn ar les oddi wrth Stad y Penrhyn;
  • dyluniad pensaernïol a thirluniol sy’n cyd-fynd ag amodau a osodwyd gan ganiatâd cynllunio a gytunwyd gan Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd;
  • adroddiad llawn yn amcangyfrif y gost a rhagfynegiadau ariannol ar gyfer y cynllun;
  • cytundeb gyda Scottish Power ar gyfer cysylltiad grid i ddarparu 100kW;
  • Tariff Bwydo-i-mewn achrediad rhagarweiniol Ofgem;

Am fwy o newyddion cliciwch yma

Rhyddhau’r Cyfranddaliadau

Ydi ‘cynnig cyfranddaliadau cymunedol’ wedi ei wneud o’r blaen?

Ydi, mae’r math yma o gynnig cyfranddaliadau cymunedol bellach wedi dod yn ffordd dderbyniol o godi arian ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy sydd yn creu trydan er lles y gymuned. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Hydro Anafon, Abergwyngregyn;
  • Hydro Garmony, Ynys Mull yn yr Alban;
  • Hydro Dyffrynnoedd Gwyrdd Llangadog yn Ne Cymru;
  • Hydro Harlaw ger Caeredin;
  • Hydro Whitby Esk yn Rhydychen;
  • Hydro Torrs Mill yn Swydd Derby.

Pe bawn yn marw, beth fyddai’n digwydd i’m cyfranddaliadau?

Pe bai Aelod yn marw, byddai gwerth ad-dalu’r cyfranddaliadau fel arfer yn cael ei ychwanegu at ei ystâd ar gyfer profiant. Mae gynnoch chi’r opsiwn i enwebu’r sawl fyddai’n derbyn gwerth eich cyfranddaliadau pe baech chi’n marw. Os rydych wedi hawlio gostyngiad treth EIS, gallwch osgoi talu Treth Etifeddiaeth ar y cyfranddaliadau trwy eu cynnwys yn eich ewyllys.

Alla i ddal cyfranddaliadau ar ran plant?

Rhaid i Aelodau fod o leiaf 16 mlwydd oed. Mae gan fuddsoddwr yr opsiwn o ddal cyfranddaliadau ar ran rhywun sydd dan 16 ond bydd y cyfranddaliadau hyn yn cael eu dal mewn ymddiriedolaeth nes bod y plentyn yn 16 (y buddsoddwr yw “ yr ymddiriedolwr “). Felly mae’r cyfranddaliadau yn eiddo personol yr ymddiriedolwr nes bydd y plentyn wedi cyrraedd 16 mlwydd oed. Pe bai’r ymddiriedolwr hefyd yn Aelod ar ei liwt ei hun, byddai hyn yn awgrymu y byddai’n Aelod ddwywaith drosodd ac y byddai ganddo/ganddi yr hawl i ddwy bleidlais. Gan na chaniateir hyn, ni all ymddiriedolwr sy’n dal cyfranddaliadau ar ran plentyn fod hefyd yn Aelod ar ei liwt ei hun.